Digital in Wales – the opportunity

digital wales

Written by Victoria Ford, Director, Perago

In recent months there’s been a fundamental shift in digital in Wales, particularly in the public sector. Not everyone will have seen it yet, but those involved will be starting to sense a change, a momentum, a gear change in ambition, focus and pace.

The pandemic has demonstrated the importance of digital in delivering modern services at pace. This is more than delivering individual services, it is about improving lives for the people of Wales and building the local economy at a time when this is more important than ever.    

I’ve worked in digital transformation for over 15 years.  Back when the Government Digital Service was first set up I was Head of Communications at the DVLA in Swansea and led the work there to really open up how the organisation communicated with both the people who used its services and internally with colleagues.  We introduced new channels and new ways of thinking to support the move to online services and begin the shift in culture and direction needed to really improve service delivery. Fast forward 15 years and I am now fortunate to be part of the founding team at Perago. We’re a digital transformation and service design company based in Swansea.  Our roots are in public service delivery in Wales. Back in 2017, we were told there wasn’t a market for what we do, that there was no desire in Wales to take a user-centred approach to deliver services and that we’d be better off working in England or further afield if we wanted to build a business that could grow and thrive. That wasn’t for us. Four years on and not only are we still here working in Wales, but we’ve also grown year on year. We’ve moved from a solely associate model to creating jobs, jobs in Wales, jobs in digital in Wales. And we’re continuing to grow and we have more ambition than ever before.

Sharing knowledge and experience is personally important for me. I was a member of the expert digital panel that produced the Systems Reboot report and have championed the need for digital transformation in Wales. A new focus from the Welsh Government and the Office of the Chief Digital Officer and things have started to happen.

 In June the Centre for Digital Public Services was launched. The pace and focus of the Centre have been brilliant. I’m fortunate to have been involved in the delivery of the initial outputs from the Centre and have been delivering their communications and engagement. It’s been an opportunity to demonstrate pace and working in the open with blogs, knowledge-sharing events and building communities. In March 2021 the Welsh Government launched its Digital Strategy for Wales with the vision, Digital in Wales: improving the lives of everyone through collaboration, innovation and better public services.  The strategy sets out six missions that will create a digital Wales.

There’s a long way to go, and there’s a lot to do. But things are changing. Digital Leaders can really play a part in this; sharing good practice and learning, building communities and supporting the shift in digital thinking in Wales.  It’s also why I am really delighted to be the new chair of Digital Leaders in Wales – I want to play my part in bringing people together across sectors to share and learn, but also to showcase the digital talent that exists across Wales.

I’m excited about the opportunity this brings to everyone who wants to make Wales a better place and am grateful for the team at Digital Leaders for giving me the opportunity to lead on this collaboration in Wales.  Following on from the success of June’s DigiLeaders week, we’d love you to get involved.  If you’d like to find out more, or share your knowledge and experience, then please get in touch, I’d love to hear from you.


Digidol yng Nghymru – y cyfle

 

Dros y misoedd diwethaf, mae symudiad wedi bod yn y maes digidol yng Nghymru, yn arbennig yn y sector gyhoeddus. Ni fydd pawb yn ei weld eto, ond mi fydd y rhai sy’n gweithio yn y maes yn dechrau gweld newid momentwm mewn uchelgais, ffocws a chyflymder cyflawni.

Mae’r pandemig wedi dangos rôl greiddiol digidol wrth ddarparu gwasanaethau modern yn sydyn. Mae’n golygu mwy na chynnig gwasanaeth, mae’n ymwneud â gwella bywydau pobl Cymru ac adeiladu’r economi leol mewn cyfnod pan fo hynny’n bwysicach nag erioed.

Rwyf wedi gweithio yn y maes trawsnewid digidol ers dros 15 mlynedd. Yn y cyfnod pan gafodd y Government Digital Service ei sefydlu, roeddwn yn Bennaeth Cyfathrebu gyda’r DVLA yn Abertawe. Yno, mi wnes i arwain y gwaith o gyfathrebu’n llawer mwy agored – gyda’r bobl oedd yn defnyddio’r gwasanaethau ac yn fewnol gyda chydweithwyr.  Mi wnaethom gyflwyno sianeli newydd a ffyrdd newydd o feddwl er mwyn cefnogi’r newid i wasanaethau ar-lein a chychwyn newid y diwylliant a’r cyfeiriad oedd angen ei ddilyn er mwyn gweld gwelliannau wrth ddarparu gwasanaeth. Gan neidio ymlaen 15 mlynedd, rwyf bellach yn falch o fod yn rhan o’r tîm gychwynnodd Perago. Rydym yn gwmni trawsnewid digidol a dylunio gwasanaeth wedi ein sefydlu yn Abertawe. Mae ein gwreiddiau mewn darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

 Nol yn 2017, dywedwyd wrthym nad oedd marchnad i beth oeddem ni’n ceisio ei wneud yng Nghymru, ac nad oedd awydd yng Nghymru i ddylunio o amgylch anghenion y defnyddiwr wrth ddarparu gwasanaeth.  Dywedwyd wrthym hefyd yn byddai’n rheitiach i ni weithio yn Lloegr neu ymhellach os oeddem am adeiladu busnes oedd am dyfu a ffynnu. Doedd hynny ddim yn opsiwn i ni.

 Pedair mlynedd yn ddiweddarach, a nid yn unig ein bod wedi llwyddo i weithio yng Nghymru, rydym wedi llwyddo i dyfu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Rydym wedi symud o fod yn fodel gydag ymgynghorwyr cysylltiol i fod yn creu swyddi; swyddi yng Nghymru, swyddi digidol yng Nghymru. Ac rydym yn dal i ehangu, gyda mwy o uchelgais nag erioed.

 Mae rhannu gwybodaeth a phrofiad yn allweddol i beth ydym ni yn ei wneud ac ar lefel bersonol mae’n bwysig i mi hefyd. Roeddwn yn aelod o’r panel digidol o arbenigwyr gynhyrchodd yr adroddiad ‘Newid y System’ ac wedi bod yn eiriol dros yr angen am drawsnewid digidol yng Nghymru. Gyda ffocws newydd gan Lywodraeth Cymru a swyddfa y Prif Swyddog Digidol, mae pethau wedi dechrau newid.

 Ym mis Mehefin cafodd y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus ei lansio. Mae ffocws a chyflymder gweithredu’r Ganolfan wedi bod yn wych. Rwyf yn ffodus o fod wedi bod yn rhan o sefydlu’r Ganolfan ac wedi bod yn gyfrifol am y gwaith cyfathrebu ac ymgysylltu.  Mae wedi bod yn gyfle i ddangos sut mae gweithio yn agored trwy golofnau blog, digwyddiadau rhannu gwybodaeth ac adeiladu cymunedau.

 Yn Mawrth 2021, lansiodd Llywodraeth Cymru eu Strategaeth Ddigidol i Gymru gyda’u gweledigaeth, Digidol yng Nghymru: gwella bywydau pawb trwy gydweithio, arloesi a gwasanaethau cyhoeddus gwell. Mae’r strategaeth yn cynnwys chwech cenhadaeth fydd yn creu Cymru ddigidol.

 Mae na dipyn o ffordd i fynd, a llawer i’w wneud. Ond mae pethau’n newid. Ac mi all Arweinwyr Digidol chwarae rhan allweddol yn hyn: yn rhannu arfer da ac yn dysgu, adeiladu cymunedau a chefnogi y newid meddylfryd i un digidol yng Nghymru.

 Dyma’r rheswm hefyd pam mod i wrth fy modd o dderbyn y cynnig i gadeirio Arweinwyr Digidol yng Nghymru – dw i eisiau chwarae fy rhan yn dod â phobl at ei gilydd ar draws sectorau er mwyn rhannu a dysgu, ond hefyd i ddangos y talent digidol sy’n bodoli ar draws Cymru.

 Dwi’n gyffrous wrth feddwl am y cyfleoedd sydd yna i wneud Cymru’n le gwell ac yn ddiolchgar i’r tîm yn Arweinwyr Digidol am roi’r cyfle i mi arwain y cydweithio yma yng Nghymru.  Yn dilyn llwyddiant wythnos Arweinwyr Digidol ym mis Mehefin, byddem yn falch iawn o’ch gweld chi yn cymryd rhan.

 Os hoffech chi wybod mwy, neu os hoffech rannu eich gwybodaeth neu’ch profiadau, mae croeso i chi gysylltu â mi. Byddwn yn falch iawn o glywed gennych.


More thought leadership

Comments are closed.