Darlith Flynyddol Cymru – Yr Athro Tom Crick MBE

12th Oct 2020, 5:00 pm - 7:00 pm

Cyflawni Cymru Ddigidol: Sgiliau, Seilwaith ac Economi’r Dyfodol

Dros y 10 mlynedd ddiwethaf rydyn ni wedi gweld mentrau polisi sylweddol sy’n gwneud Cymru’n genedl ddigidol ffyniannus: o fuddsoddiadau sylweddol mewn seilwaith cenedlaethol, dulliau sbarduno arloesedd a denu diwydiannau uchel eu gwerth, i ddiwygiadau mawr ym maes addysg a sgiliau. Tua blwyddyn sydd tan etholiadau nesaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru, felly bydd mwy a mwy o graffu ar lwyddiant neu fethiant yr amrywiol fentrau a buddsoddiadau hyn ymysg y cyhoedd a’r cyfryngau, gan osod y sylfaen ar gyfer addewidion maniffestos a pholisi’r llywodraeth yn y dyfodol.

Mae’r cyd-destun gwleidyddol, polisi ac economaidd heriol hwn yn glir, yn y tymor byr a’r tymor hir; felly beth mae hyn yn ei olygu i economi Cymru yn y dyfodol – a sut gallwn ni ddatblygu dinasyddion sy’n hyderus a galluog yn ddigidol er mwyn cefnogi sawl dyfodol posib? 

Yn Narlith Flynyddol Arweinwyr Digidol Cymru eleni, bydd yr Athro Tom Crick MBE o Brifysgol Abertawe yn adlewyrchu ar y cyd-destun polisi digidol ehangach, gan fynegi’r prif heriau a chyfleoedd i Gymru yn y DU, yn Ewrop ac yn fyd-eang. Drwy wydr gwaith diweddar, gan gynnwys datblygu’r Cwricwlwm newydd i Gymru, yr Adolygiad diweddar o Arloesi Digidol a Dyfodol Gwaith, a blwyddyn waith gyntaf Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, bydd yr Athro Crick yn amlinellu’r potensial i wneud Cymru’n wlad profi ar gyfer polisi a thechnoleg agored sy’n canolbwyntio ar y dinesydd, a hynny ar raddfa genedlaethol, gan fanteisio ar asedau digidol, data a chyfrifiadurol amrywiol ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Bywgraffiad

Mae’r Athro Tom Crick MBE yn Athro Addysg a Pholisi Digidol ym Mhrifysgol Abertawe; ei ddiddordebau academaidd yw’r rhyngwyneb ymchwil/polisi mewn cysylltiad ag addysg a sgiliau, seilwaith digidol/data, a’r economi ddigidol ehangach. Mae wedi chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o ddiwygio’r cwricwlwm yng Nghymru. Ef oedd cadeirydd yr adolygiad o’r cwricwlwm TGCh yn 2013 ac yn ddiweddar mae wedi cadeirio’r gwaith o ddatblygu’r maes Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn y Cwricwlwm newydd i Gymru. Ef oedd un o gomisiynwyr cyntaf Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, ac mae’n gyfarwyddwr anweithredol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Dŵr Cymru Welsh Water.

Mae’n hollbwysig cofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn oherwydd hyn a hyn o leoedd sydd ar gael.

Speakers
Professor Tom Crick MBE

Professor of Digital Education and Policy

Swansea University

Swansea University's Bay Campus, Crymlyn Burrows, Skewen, Swansea SA1, UK
Organiser